Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 13/05/26

Dyddiad y Cyfarfod : 13/05/2026

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2026

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Gweithgor Arallgyfeirio Incwm a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/26 Crynodeb Archwilio Blynyddol 2024
Mae crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos y gwaith a wnaed ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.

I’w Benderfynu

09/26  Adroddiadau Archwilio Mewnol
Cyflwynir adroddiad ar Archwilio Mewnol o ran y Rheolaethau Ariannol Allweddol – cyflwynir manylion y Gyflogres.

Er Gwybodaeth

10/26 Diweddariad ar y Strategaeth ar gyfer Archwilio Mewnol 2026/27 – 2028/29
Mae’r ddogfen yn nodi’r dulliau a gymerir i ddatblygu’r strategaeth ar gyfer Archwilio Mewnol am y cyfnod 2026 / 2029. Mae hyn yn rhoi strategaeth tair blynedd i’r Awdurdod a chynllun mwy manwl ar gyfer 2026/27.

Er Gwybodaeth

11/26 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2025-26 – Ymholiadau archwilio i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a rheoli
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried a rhoi sylwadau ar yr ymatebion i’r ymholiadau gan Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a rheoli.

I’w Benderfynu

12/26 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Rhagfyr 2025)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.

Er Gwybodaeth

13/26 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiadau yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Prosiectau a’r Dangosyddion Blaenoriaeth / Y Camau Gweithredu o ran y Meysydd Newid Corfforaethol / Y Camau Gwella yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol am y Cyfnod yn Diweddu ar 31 Rhagfyr 2025.

Er Gwybodaeth

14/26 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

Er Gwybodaeth

15/26 Cynllun Parhad Busnes, Adfer ar ôl Trychineb Technoleg Gwybodaeth
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y gweithgareddau profi ac adolygu a gynhaliwyd yn ddiweddar o ran y Cynllun Parhad Busnes a’r Cynllun Adfer ar ôl Trychineb TG, a chreu Cynllun newydd ar Reoli Digwyddiadau Seiber.

Er Gwybodaeth

7. Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Ariannol a Chodi Arian ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2026

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

16/26 Y Polisi Rheoli Risg – Y Gofrestr Risg a’r Datganiad Rheoli Risg
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau a thrafod fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Risg, yr Adroddiad ar Sicrwydd Ail Linell, a’r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg.

10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.