Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 11/11/26
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2026
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Gweithgor Arallgyfeirio Incwm a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2026
6. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2026 a 20 Hydref 2026
7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
24/26 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau ymlaen a gymerwyd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2026/27, a chrynodeb o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn.
Er Gwybodaeth
25/26 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 30 Medi 2026)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
Er Gwybodaeth
26/26 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiadau yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Prosiectau a’r Dangosyddion Blaenoriaeth / Y Camau Gweithredu o ran y Meysydd Newid Corfforaethol / Y Camau Gwella yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol am y Cyfnod yn Diweddu ar 30 Medi 2026
Er Gwybodaeth
27/26 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at 30 Medi 2026
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2026
Er Gwybodaeth
28/26 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
I’w Benderfynu
8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
9. Ystyried yr adroddiad canlynol:
29/26 Y Polisi Rheoli Risg – Y Gofrestr Risg a’r Datganiad Rheoli Risg
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau a thrafod fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Risg, yr Adroddiad ar Sicrwydd Ail Linell, a’r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg
Er Gwybodaeth
10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus