Golygfan Gorllewin Angle

Taith Antur

Taith antur: 1.9 milltir (3.1 km).
Cymeriad: Golygfeydd gwych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau, llwybrau glaswelltog yn bennaf, gyda graddiannau amrywiol, graddiannau croes mewn mannau.
Toiledau: yn y maes parcio (nid ydynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn).  Toiledau agosaf â mynediad i gadeiriau olwyn ym mhentref Angle.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibfws yr Arfordir yn y maes parcio (Mynediad i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro, tua 10 milltir i’r gorllewin o dref Penfro. Dewch ar heol y B4320.

Mae’r llwybr hwn ar arwynebau glaswelltog anwastad yn bennaf, gyda mannau serth i fyny a graddiannau croes mewn mannau.

Bae Gorllewin Angle yw diwedd dyfrffordd Aberdaugleddau ac mae hefyd yn cael y gwaethaf o’r tywydd.

Mae yna byllau glan môr da ac mae’r bae’n gartref i’r seren fôr glustog brin.

O’r olygfan, mae yna olygfeydd da o Ynys Thorn, gyda’i chaer Fictoraidd. Mae’r gaer yn un o saith, sy’n dyddio o ail hanner y 19eg ganrif.

Fe’i adeiladwyd i amddiffyn yr Aber yn erbyn bygythiad gan Ffrainc na wireddwyd yn y pendraw, ac yn nes ymlaen, rhoddwyd yr enw ‘Palmerston’s Follies’ ar yr amddiffynfeydd ar ôl yr Arglwydd Palmerston, Prif Weinidog y dydd.

Ar draws yr Aber, gellir gweld Penrhyn St Ann’s a’i oleudy. Nid oes seddau wrth y golygfannau.

Cyfarwyddiadau

Gadewch y maes parcio arno i’r trac mynediad i’r tˆ y ac arhoswch ar y trac cerrig wrth y fforch gyntaf.

O’r fan hon, mae yna ddau opsiwn: cynnwys golygfan Bae Gorllewin Angle, neu ei hosgoi a cherdded at olygfan Ynys Thorn.

I Fynd at olygfan Bae Gorllewin Angle, cadwch i’r chwith wrth yr ail fforch a dilynwch y trac i lawr i’r olygfan gerllaw (1:12 i 1:9 i lawr am 30 metr, ac yna ramp o 1:5 i fyny i’r olygfan).

Nid
oes sedd wrth yr olygfan hon. Ewch yn ôl yr un ffordd tuag at y trac, ond trowch i’r chwith arno i’r llwybr ychydig cyn ei gyrraedd.

I fynd at olygfan Ynys Thorn, cadwch i’r chwith wrth yr ail fforch a throwch i’r dde ar unwaith arno i’r llwybr. Rydych chi nawr ar Lwybr yr Arfordir.

Mae’r llwybr amlwg o wair a cherrig yn mynd i fyny’r llethr, ac yna i lawr (1:8 am 30 metr).

Ble mae’r llwybr yn mynd i fyny’r llethr eto ac yn troi i’r dde’n siarp, mae yna raddiant croes o 1:8 am 25 metr.

Ychydig yn nes ymlaen mae’r graddiant yn 1:8 am 10 metr i fyny’r llethr.

Ewch yn ôl yr un ffordd i ddychwelyd i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM854032