Coppet Hall i Stepaside

Easy Access Walk

Taith Fynediad Hwylus: 3.2 milltir (5.1 km).
Cymeriad: traciau llydan, arwyneb caled gweddol wastad ar hyd hen reilffordd, traethau, golygfeydd o’r môr, cwm coediog.
Toiledau: yn Coppet Hall a Wisemans Bridge (ar gau o fis Tachwedd i fis Mawrth), mynediad i’r anabl.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Bws gwasanaeth 351 (Dinbych-ypysgod – Pen Tywyn), nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn, arosfa bysiau gerllaw yn Saundersfoot.
Eich trafnidiaeth eich hun: hanner milltir i’r gogleddddwyrain o bentref Saundersfoot.  Dewch ar heol y B4316. Parcio ar arwyneb o gerrig cywasgedig yn Coppet Hall (tâl yn ystod y tymor).

Mae’r daith gerdded hon yn dechrau o faes parcio’r traeth yn Coppet Hall ac mae’n rhedeg ochr yn ochr â’r traeth, trwy ddau dwnnel, at draeth Wisemans Bridge ble mae’n troi tua’r tir i redeg ar hyd y nant i fyny’r dyffryn â’r enw addas, Pleasant Valley, gan orffen yn yr hen waith haearn yn Stepaside.

Mae’r adran o Coppet Hall i Wisemans Bridge yn llwybr beicio. O Wisemans Bridge i Stepaside mae’r llwybr yn dilyn llwybr ceffylau ac felly efallai y dewch chi ar draws marchogion, yn ogystal â beicwyr, ar y rhan hon o’r llwybr.

Yr enw ar Coppet Hall yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Coalpit Hall, oherwydd bryd hynny roedden nhw’n allforio glo o’r traeth hwn. Roedd Gwaith Haearn Stepaside yn prosesu mwyn a gloddiwyd o ‘leiniau’ ar y clogwyni môr rhwng Saundersfoot a Llanrath.

Mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd yr hen reilffordd a adeiladwyd i gludo glo caled o Bwll Glo’r Gelli yn Stepaside i’r porthladd yn Saundersfoot. Yn wreiddiol, ‘dramffordd’ a dynnwyd gan geffylau oedd y rheilffordd, ond aeth yn segur ac fe’i caewyd ym 1939.

Defnyddiwyd y traethau yma fel tir hyfforddi ym 1943 ar gyfer y glaniadau D-Day. Chwiliwch am y titw tomos las, y titw mawr, y dryw, cnocell fawr frith y coed a’r asgell fraith yn y coed.

Cyfarwyddiadau

Mae dechrau’r daith ar hyd trac tarmac 2.8 metr o led yn union ar y chwith wrth i chi fynd i mewn i’r maes parcio yn Coppet Hall. Dilynwch y trac rownd i’r dde tuag at yr arfordir at y twnnel cyntaf.

Wrth fynedfa’r twnnel mae yna oledd byr am i lawr o 1:14 am 2 fetr, ewch drwy’r twnnel (18 metr o hyd) gan basio dwy fainc at ail dwnnel (101 metr o hyd).

Mae’r llwybr yn y twnnel yn 2 fetr o led ac yn culhau I 1.5 metr o led wrth yr allanfa. Nid oes golau yn y twnnel ac mae arwyneb y llwybr yn anwastad mewn mannau.

Ewch yn eich blaen gan ddilyn y traeth, ac mae’r llwybr oddi yma i’r heol yn Wisemans Bridge fel rhodfa gyda rheiliau ar y morglawdd, ac mae’r lled yn amrywio o 1.6 i 3.5 metr.

Bedwar deg metr ar ôl y twnnel mae yna oledd byr o 1:12 am i lawr am 3 metr. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i basio dwy fainc arall.

Mae’r llwybr yn crymu ddwywaith tua’r môr; 1:8 ac 1:12 am bellter cyfunol o 40 metr. Pasiwch fainc arall a chyffordd llwybr troed sy’n arwain i’r coed, i basio dwy fainc arall, hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd gyda’r heol.

Er mwyn mynd at y toiledau yn Wisemans Bridge o’r gyffordd gyda’r heol, ewch tua’r dde ar hyd yr isffordd (dim palmant) am 92 metr gyda goleddau am i lawr rhwng 1:8 ac 1:14. Ewch yn ôl yr un ffordd.

Er mwyn parhau gyda’r daith, ewch tua’r chwith i ddilyn yr isffordd heibio i Step Cottage am 260 metr (dim palmant), gan gadw at ochr chwith yr heol i osgoi crymu o 1:8, hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd gyda’r llwybr ceffylau yn Tramway Cottage.

Gadewch yr heol ar y tro, ac mae’r arwyneb yn anwastad am 3 metr, a pharhewch yn syth yn eich blaen ar hyd y llwybr ceffylau â’r arwyneb caled trwy’r coed.

Fe fyddwch yn pasio cyffordd gyda llwybr troed i’r chwith a 440 metr ar hyd y llwybr ceffylau mae yna fainc.

123 metr o’r fainc mae’r llwybr yn crymu hyd at 1:15 am 25 metr. Croeswch y bont, gan basio cyffordd llwybr troed arall i’r chwith hyd nes i chi gyrraedd bwlch drws nesaf i giât.

Oddi yma, mae yna arwyneb o gerrig cywasgedig am 98 metr wrth i’r llwybr ceffylau redeg yn baralel i’r heol am ychydig bach cyn mynd tua’r chwith arno i’r heol fynediad at yr hen waith haearn a’r maes parcio. Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyferinod Grid: SN139053