PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.4 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dinbych-y-pysgod 361/381
CYMERIAD: Arfordir garw, graddiant, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o Ddinbych-y-pysgod, Pentywyn ac arfordir Gwyr.
Mae’r daith gerdded hon yn dechrau ac yn gorffen ym mhentref New Hedges lle mae siopau a pharcio ymyl ffordd. Mae’n gylchdaith 3.4 milltir o hyd sy’n cynnwys un filltir o Lwybr Arfordir Penfro.
Mae gan Lwybr yr Arfordir ychydig o raddiannau serth mewn rhai mannau ac mae’n mynd heibio planhigfa llarwydd yn Lodge Valley. Rhwng Waterwynch a Phen Monkstone ceir golygfeydd ysblennydd o Ddinbych-y-Pysgod a hebogau ar hyd y morlin.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnal a chadw Llwybr yr Arfordir ac mae wedi defnyddio byrddau plastig a ailgylchwyd i adeiladu’r grisiau yn Lodge Valley.
Adeiladwyd Tŷ Waterwynch tua 1820 ar gyfer Charles Norris, peintiwr ac ysgythrwr, a ymgartrefodd yn Ninbych-y-pysgod ym 1810.
Mae ‘Etchings of Tenby’, a gyhoeddwyd ym 1812 gan Norris, yn gofnod unigryw o’r dref ganoloesol ychydig cyn iddi gael ei ailddatblygu’n helaeth fel cyrchfan gwyliau.
Gellir cael mynediad i ddau draeth (Bae Waterwynch a Monkstone) o’r daith gerdded pan fod y llanw’n isel.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SN129028
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau