Arweiniad Covid-19 (Coronafeirws) i gerddwyr

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyhoeddi arweiniad i bobl er mwyn eu helpu i gadw’n ddiogel pan fyddant yn mynd i gerdded.

Ar yr amod nad ydych chi, nac unrhyw un arall yn eich cartref, yn arddangos symptomau Covid-19, y cyngor cyfredol gan Lywodraeth Cymru yw ei bod yn ddiogel ichi adael eich cartref i wneud ymarfer corff, cyhyd â’ch bod chi:

  • Cynlluniwch ymlaen llaw – Os gallwch deithio i fannau i ymwelwyr yn yr awyr agored o dan y lefel bresennol o gyfyngiadau, dylech ofalu eich bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo’n rheolaidd, yn enwedig os ydych yn defnyddio toiledau a chyfleusterau eraill. Ni chaniateir teithio i gwrdd ag aelodau o aelwyd arall mewn parciau ac atyniadau, neu ar draethau y tu allan i’ch ardal leol.
  • Aros ar y llwybr – Peidiwch â thresmasu ar dir preifat; defnyddiwch lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau yn unig.
  • Cadw pellter cymdeithasol ac yn gadw at arferion hylendid dwylo manwl – Cadwch o leiaf dau fetr rhyngoch chi a cherddwyr eraill ac osgoi defnyddio llwybrau cul.
  • Cynllunio eich taith – Ceisiwch osgoi’r amseroedd prysur pan fydd llawer o bobl eraill yn cerdded hefyd, ac os yn bosibl, peidiwch â defnyddio’r un llwybrau bob dydd.
  • Parchu preswylwyr a thirfeddianwyr – Os yw llwybr yn agos at dŷ neu fferm, ceisiwch ddefnyddio llwybr arall. Os nad yw hyn yn bosibl, parchwch le’r preswylwyr gan y gallant fod yn agored i niwed neu’n hunanynysu.
  • Cadw cŵn ar dennyn – Nae llawer o gaeau’n llawn defaid.
  • Cau giatiau i atal defaid a gwartheg rhag dianc.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynglyn â golchi dwylo a hylendid – Cofiwch fod gatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn cael eu cyffwrdd yn rheolaidd.

Poster Mwynhau eich Taith Cerdded - Coronafeirws