Cysylltwch â ni a chofrestrwch eich manylion i gael y diweddariadau diweddaraf ar yr hyn sy'n digwydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r safle a sut rydyn ni’n gweithredu i sicrhau ein bod ni’n eich cadw chi, ein staff a’n cymuned leol yn ddiogel. Darllenwch ein tudalen Cyn i chi archebu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dewch i fwynhau diwrnod cynhanesyddol yng Nghastell Henllys! Tocyn yn cynnwys mynediad a sgwrs am 11am.
Dewch i ddarganfod ein tai crwn, dysgwch am fywyd Oes Haearn yn ein darlith awyr agored a mwynhewch sgwrsio hefo’r pentrefwyr am eu ffordd hynafol o fyw.
Gallwch fwynhau cerdded trwy’r goedwig, derbyn sialens y llwybr troednoeth neu ymlacio yn nhawelwch a phrydferthwch naturiol y safle.
Mae’r caffi ar agor bob dydd. Gweler tudalen Facebook Caffi’r Caban am yr amseroedd agor diweddaraf.
Sylwch na allwn dderbyn arian parod ar y safle y byddwn yn derbyn taliadau cerdyn a digyswllt yn unig.
Peidiwch â chyrraedd dim cynharach nag ychydig o funudau cyn y slot rydych chi wedi’i archebu. Bydd gofyn i chi ddangos eich cadarnhad archebu pan fyddwch chi’n cyrraedd. Cofiwch y bydd eich e-byst tocynnau a cadarnhau taliad weithiau’n gallu mynd yn syth i’ch ffolder post sothach, felly cofiwch wirio.
Gallwch gyrraedd unrhyw bryd yn ystod eich slot amser ond rhaid i chi adael safle Castell Henllys cyn diwedd eich slot amser.
We welcome your feedback. Please tell us about your experience by filling in our Events Feedback Form.