I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Enillydd cystadleuaeth Darganfod y Ffosiliau yn derbyn gwobr o £50

Bu ymweliad â Sioe Sir Benfro yn fuddiol iawn i un ymwelydd craff, a enillodd £50 yng nghystadleuaeth Darganfod y Ffosiliau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Dewiswyd Laurie-Beth Addison, sy’n un ar ddeg oed, fel enillydd ar ôl iddi ddarganfod yr holl ysgerbydau o gwmpas stondin Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Winner of 2019 County Show Find the Fossil Competition at Castell Henllys

Laurie-Beth Addison yn cael ei chyflwyno gyda’i gwobr gan y Cynghorydd Paul Harrison, Cadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Yn cyplysu â thema Blwyddyn Darganfod Llywodraeth Cymru, roedd y gystadleuaeth yn anelu at agor ffenestr o ddarganfod ar orffennol Sir Benfro, a’r amrywiaeth cyfoethog o fywyd anifeiliaid y mae wedi’u cynnal dros y milenia.

Cyflwynwyd siec am £50 i Laurie-Beth gan y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc, mewn seremoni arbennig ym Mhentref Oes yr Haearn Castell Henllys ar ddydd Mercher, 28ain Awst.  Ar ôl hyn, rhoddwyd y cyfle i Laurie-Beth a’i theulu fwynhau’r atyniad sy’n cael ei redeg gan yr Awdurdod a phrofi bywyd yn yr Oes Haearn drostyn eu hunain.

Dywedodd Delun Gibby, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr Castell Henllys: “Roedd yn bleser croesawu Laurie-Beth a’i theulu i Gastell Henllys, yr unig bentref Oes yr Haearn yn y DU, sydd wedi cael ei adeiladu ar yr union safle yr oedd ein hynafiaid yn byw 2,000 mlynedd yn ôl.”

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â Phentref Oes yr Haearn Castell Henllys a’i galendr o ddigwyddiadau, ewch i www.castellhenllys.com os gwelwch yn dda.

 

 

Gyhoeddi 09/09/2019



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion