I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Mwynhewch wledd o hwyl y Pasg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Os ydych chi'n chwilio am rywle newydd i’w ddarganfod neu eisiau hwyl i'r teulu cyfan yn ystod gwyliau'r Pasg, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn addo cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod Blwyddyn Darganfod.

Bydd holl fwrlwm y Pasg yn aros amdanoch yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a bydd amrywiaeth o brofiadau eraill i'w mwynhau yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.

Experience the Iron Age at Castell Henllys Iron Age Village.
Profwch yr Oes Haearn ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn rhoi cyfle i chi Brofi'r Oes Haearn ar 12, 13, 25 a 27 Ebrill, i brofi sut oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Bydd Diwrnodau Hwyl y Pasg ar 19, 20 a 21 Ebrill yn rhoi cyfle i chi ddarganfod sgil newydd neu ddilyn Helfa’r Pasg. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i www.castellhenllys.com neu ffoniwch 01239 891319.

Follow the Easter Bunny Trail at Carew Castle and Tidal Mill.
Dilynwch Helfa’r Gwningen Basg yng Nghastell a Melin Heli Caeriw.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, gallwch ymuno â Helfa’r Gwningen Basg o 13-28 Ebrill, sy’n golygu neidio o gwmpas y Castell yn chwilio am gliwiau. Dewch o hyd i’r holl gliwiau i hawlio gwobr flasus. £1 y plentyn yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

I'r rheini sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd Rhoi Tro ar: Y Cwrwgl ar 21, 22 a 23 Ebrill yn gyfle i chi roi cynnig ar y cwch traddodiadol un person ar Bwll Melin Caeriw, yn dilyn hyfforddiant arbenigol. Pris mynediad arferol yn ogystal â £5 am sesiwn 15 munud neu £10 am sesiwn 30 munud. Mae’n syniad da i gadw lle ymlaen llaw.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amserau agor ewch i  www.castellcaeriw.com neu ffoniwch 01646 651782.

Create your own masterpiece at Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre.
Crëwch eich campwaith eich hun yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gallwch herio Helfa Drysor y Pasg o 13 i 21 Ebrill er mwyn dod o hyd i'r cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Ganolfan a'r tir gerllaw gyda’r nod o ddatgelu’r ateb cudd i ennill gwobr. £2 y ddalen.

Bydd y gweithdy Darganfod Celf ar 23 Ebrill yn annog plant i fod yn greadigol a chynhyrchu campwaith i fynd adref gyda nhw, ar ôl archwilio'r oriel i ddod o hyd i ysbrydoliaeth. £3 y plentyn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau ac amseroedd agor, ewch i www.orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.

Mae uchafbwyntiau tirwedd y Parc Cenedlaethol yn cynnwys cyfle i Ddarganfod Ymlusgiaid gyda thaith gerdded o amgylch St Anne’s Head ar 17 Ebrill. Byddwch yn ymuno â Pharcmon y Parc Cenedlaethol ac arbenigwr ymlusgiaid i chwilio am rywogaethau brodorol a helpu gyda'r ymdrech i fonitro bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad. Plant £4, oedolion a phobl hŷn £6.

I'r rheini sydd â diddordeb mewn daeareg a hanes, bydd taith dywys Darllen y Dirwedd: Taith drwy Amser o gwmpas Penmaen Dewi ar 24 Ebrill yn datgelu cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol. Bydd y llwybr pum milltir yn pasio drwy dystiolaeth o fywyd y cyfnod Neolithig, yr Oes Haearn a'r Oesoedd Canol a bydd yn costio £4 y person.

I gadw lle ar y digwyddiadau hyn, ffoniwch 01437 720392.

I weld manylion yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/events neu fel arall casglwch gopi o Coast to Coast.

Gyhoeddi 12/04/2019



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion