I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Darganfyddiadau newydd i’w gwneud ar Ddiwrnod Archaeoleg y Parc Cenedlaethol

Bydd Diwrnod Archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn datgelu darganfyddiadau newydd ynghylch rhai o henebion mwyaf adnabyddus yr ardal, yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd sydd newydd gael eu darganfod.

Bydd y digwyddiad, a drefnwyd gan Planed mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn cael ei gynnal yn Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro am 9.30am-4pm ddydd Sadwrn 17 Tachwedd.

South Pembs c. Crown RCAHMW

Bydd 16eg Diwrnod Archaeoleg blynyddol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 17 Tachwedd o  9.30am-4pm.

Dywedodd Delun Gibby, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Bydd y Diwrnod Archaeoleg yn cynnig cyfle i bobl glywed cyflwyniadau sy’n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal ag am ddarganfyddiadau newydd a wnaed yn gynharach eleni yn ystod y cyfnod hir o dywydd sych.

“Bydd yr amrywiaeth o siaradwyr gwybodus a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, dan gadeiryddiaeth Heather James, yn cynnwys Dr Toby Driver, Dr Chris Caple, yr Athro Mike Parker Pearson ac Alice Pyper. Mae hanner y tocynnau eisoes wedi mynd, felly sicrhewch eich bod yn archebu lle’n gynnar i osgoi cael eich siomi.”

Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn costio £20 y pen a £17 i fyfyrwyr. I archebu lle, cysylltwch ag Oriel y Parc drwy ffonio 01437 720392 neu info@orielyparc.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac am holl ddigwyddiadau eraill Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

 

 

 

Gyhoeddi 18/10/2018



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion