Parcio

Meysydd Parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli oddeutu 40 o feysydd parcio ac ardaloedd parcio; rydyn ni’n codi tâl mewn 14 o'r rheini ac yn defnyddio'r incwm i gynnal a chadw meysydd parcio a llwybrau’r Parc. Mae'r cyfnod talu yn weithredol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref (cynwysedig).

Yn ystod y cyfnod hwn bydd rhaid i bob cerbyd naill ai arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys , Tocyn Tymor wedi’i brynu ymlaen llaw neu brynu tocyn digidol 'PayByPhone'. Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.

Y tu allan i’r cyfnod codi tâl, rydym yn cynnig parcio am ddim ar holl feysydd parcio’r Awdurdod sy’n codi tâl am bedwar mis bob blwyddyn, o fis Tachwedd i fis Chwefror.

Rydym hefyd yn cynnig 30 munud o barcio am ddim (60 munud i ddeiliaid Bathodynnau Glas) ar draws ein holl feysydd parcio codi tâl yn ystod y cyfnod codi tâl.

 

Prisiau Talu ac Arddangos (arian parod yn unig)

  • Hyd at 30 munud: £0 (dim dychwelyd cyn pen 4 awr)
  • Hyd at awr: £1.50
  • Hyd at ddwy awr: £3
  • Hyd at pedair awr: £4.50
  • Dyddiol: £6
  • Saith diwrnod: £30
  • Bysiau: Dyddiol: £8

(mae’n rhaid i ddeiliaid Bathodynnau Glas dalu, ond byddant yn cael awr ychwanegol o barcio)

Talu di-arian

Gall pobl nad ydynt yn dymuno defnyddio’r peiriannau arian parod presennol ar y safleoedd ddefnyddio PayByPhone (agor mewn ffenest newydd) drwy ap, neges destun, galwad ffôn neu ar-lein.

Bydd angen i fodurwyr fod yn ymwybodol y bydd defnyddio PayByPhone o’n meysydd parcio yn dibynnu ar ddarpariaeth rhwydwaith, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’ch darparwr. Er y byddwch efallai yn dymuno talu am docyn cyn teithio i’r maes parcio, nid yw hyn yn gwarantu y bydd lle ar gael.

 

Archebu tocynnau tymor ar-lein

Mae tocynnau tymor 2024 ar gael i’w harchebu trwy ein siop ar-lein trwy glicio’r dolennau isod:

Cynlluniwch ymlaen llaw. Bydd eich tocyn tymor yn cael ei bostio atoch. Caniatewch 14 diwrnod ar gyfer danfon.

Gellir prynu tocynnau tymor maes parcio yn bersonol hefyd ym Mhencadlys Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym Mharc Llanion, Doc Penfro, SA72 6DY (ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm a dydd Gwener 9am-4.30pm) ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi (am oriau agor, gweler gwefan Oriel y Parc).

 

Map Meysydd Parcio talu Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Cliciwch ar yr eicon P i weld mwy o wybodaeth am bob lleoliad.

Nodwch

Bydd unrhyw gerbydau sydd ddim yn arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys, tocyn wedi’i brynu ymlaen llaw, neu brynu tocyn digidol ‘PayByPhone’ yn gymwys i gael hysbysiad cosb benodedig gan fod ein meysydd parcio yn cael eu monitro’n rheolaidd gan Swyddogion Gorfodaeth Parcio. Cyfeiriwch at yr arwyddion ar y safleoedd i weld y telerau ac amodau llawn.

Ni chaniateir cysgu dros nos mewn cerbyd ym meysydd parcio’r Awdurdod.  Os byddwch yn gwneud hyn, efallai bydd yn rhaid i chi dalu hysbysiad cosb benodol. Os oes angen llety dros nos arnoch, defnyddiwch gyfleusterau llety lleol ac ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol.​

Map Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Cliciwch ar yr eiconau i weld manylion y pwyntiau gwefru sydd ar gael ym mhob lleoliad.

Gwybodaeth weithredol:
Mae pwyntiau gwefru yn gysylltiedig â Rhwydwaith Codi Tâl Dragon Charging, a gefnogir gan rwydwaith Clenergy ar draws y DU. I ddechrau defnyddio gwefrydd, cofrestrwch neu mewngofnodwch ar wefan Dragon Charging (agor yn ffenestr newydd). Fel arall, gallwch cyrchu gwefrwy drwy ymweld a’r Google Play Store (agor yn ffenestr newydd) a’r Apple app store (agor yn ffenstr newydd).
Sylwch nad oes gan APCAP unrhyw gyfrifoldeb am gynnal a chadw’r pwyntiau gwefru. Mae gan APCAP gontract consesiwn 8 mlynedd gyda Silverstone Green Energy trwy Dragon Charging.

Canllawiau ar gyfer mannau signal gwael (e.e. Freshwater East):
Mae Dragon Charging yn argymell cofrestru cerdyn RFID mewn lleoliad Dragon Charging arall i liniaru’r angen am yr ap neu’r wefan wrth ddefnyddio safle â signal gwael.

Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin ar wefan Dragon Charging (agor yn ffenstr newydd)

Gallwch gofrestru unrhyw gerdyn RFID presennol ar rwydwaith Dragon Charging. I gofrestru cerdyn, ewch â’ch cerdyn i’ch gwefrydd rhwydwaith Dragon Charging agosaf a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

 

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif DragonCharging
  2. Dewiswch My Account o’r brif ddewislen
  3. 3. Ewch i RFID Card
  4. 4. Tap ar Register
  5. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin

Nawr gallwch chi ddechrau defnyddio’ch cerdyn RFID dewisol ym mhob pwynt gwefru rhwydwaith Dragon Charging.

Lleoliadau gwefru ledled y DU:
Amlygir pwyntiau gwefru ledled y DUar Zap Map (agor yn ffenestr newydd). Os oes gan bin linell goch o’i gwmpas, mae hyn yn golygu nad yw’r pwynt yn gweithredu.

Adrodd problemau
Dylid cyfeirio pob ymholiad, gan gynnwys unrhyw broblemau gyda chysylltedd, at Dragon Charging. Darperir manylion ar y pwynt gwefru, fel isod. Llinell gymorth cwsmeriaid: 01834 474480.

Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

  • Llanrhath
  • Saundersfoot Regency
  • Penalun
  • Maenorbŷr
  • Freshwater East
  • Bae Gorllewin Angle
  • Little Haven
  • Aberllydan (Broad Haven North)
  • Nolton Haven
  • Niwgwl (Pebbles)
  • Solfach
  • Oriel y Parc, Tyddewi
  • Traeth Mawr, Trefdraeth
  • Traeth Poppit

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol