Mae Coast to Coast, sef y papur blaenllaw am ddim i ymwelwyr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, erbyn hyn yn ei 41ain blwyddyn.
I ymwelwyr â’r unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain, nid oes cyhoeddiad gwell am ddim – ac i hysbysebwyr, does unlle gwell i hyrwyddo eich busnes.
Mae’r galw am le yn ein rhifyn 48 tudalen ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
I drafod eich gofynion hysbysebu, ffoniwch Hysbysebu Coast to Coast, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY. Ffôn: 01646 624823 neu ebostiwch advertising@pembrokeshirecoast.org.uk.
Mae fersiwn PDF o’r pecyn hysbysebu hefyd ar gael, ar mae’r gwybodaeth hysbysebu ar gael yn Saesneg hefyd.
Pam ddylech chi hysbysebu Coast to Coast 2023?
- Bydd dros 1 filiwn o bobl leol ac ymwelwyr yn gweld eich hysbyseb bob tymor.
- Fe’i dosberthir ar hyd a lled y sir am 6 mis rhwng mis Ebrill a mis Medi.
- Rhifyn swmpus 48 tudalen yn hyrwyddo eich busnes a’r ffyrdd gorau o fwynhau’r Parc
Cenedlaethol. - Argraffu o safon er mwyn dangos eich cynnyrch/gwasanaeth ar ei orau a chreu argraff
barhaol.
Dyma ddywedodd ein darllenwyr:
“Mae bob amser yn uchafbwynt pan mae’r Coast to Coast newydd yn cyrraedd! Mae gennym ni un ym mhob un o’n cabanau ni, i helpu ein gwesteion i gael y gorau o’u gwyliau yn Sir Benfro.” – Instagram
“Hwn ydi’r cyhoeddiad gorau i dwristiaid yn Sir Benfro.” – Gill, Gwesty Beggars Reach
Sut i hysbysebu yn Coast to Coast 2023
- Mae dau fath o hysbysebion: mân hysbysebion a hysbysebion arddangos. Mae’r hysbysebion mân yn rhai testun yn unig, ac mae’r hysbysebion arddangos yn rhai mewn bocs (opsiynau o ran maint ar dudalen ‘Archeb am Fân Hysbyseb, neu dudalen 4 o’r pecyn hysbysebu).
- Angen help i ddylunio eich hysbyseb arddangos? Cysylltwch â thîm Hysbysebu Coast to Coast i gael manylion am ein gwasanaeth dylunio (codir tâl).
- Os ydych chi am i’ch hysbyseb arddangos fod mewn safle penodol yn y papur, y tu allan i
gategori a enwir, dewiswch yr opsiwn i dalu am Le Sicr i sicrhau eich lle (gweler tudalen Archeb am Hysbyseb Arddangos neu dudalen 5 o’r pecyn hysbysebu).
Pan fyddwch chi’n barod i archebu eich gofod hysbyseb, llenwch y ffurflenni ar-lein neu anfonwch gopi o’ch ffurflen archebu dros e-bost at advertising@pembrokeshirecoast.org.uk a byddwch yn cael anfoneb. Y taliad gorau yw drwy BACS, yna gyda cherdyn.
Dylid archebu, talu a gwneud y gwaith celf erbyn: Dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Categorïau hysbysebu ar gyfer 2023
- Artistiaid ac Orielau
- Teithiau Cwch ac Ymweliadau ag Ynysoedd
- Crefftau (is-gategorïau: gwydr, gwlân, pren, crochenwaith, amrywiol)
- Gerddi
- Amgueddfeydd
- Sir Benfro ar Blât
- Antur yn yr Awyr Agored (is-gategorïau: chwaraeon dwr, pysgota, marchogaeth)
Sylwch: Nid oes raid i’ch hysbyseb arddangos fod mewn categori arbennig; mae yna leoedd unigol ymhob rhan o’r papur hefyd. Os nad ydych yn siwr lle fyddai orau i’ch hysbyseb, bydd ein tîm yn falch o’ch helpu – ffoniwch ni ar 01646 624823. Hefyd, os ydych eisiau inni warantu lle penodol ar gyfer eich hysbyseb arddangos, cysylltwch â ni i archebu a thalu am Le Sicr (gweler ffurflen archebu hysbysebion arddangos, neu dudalen 5 o’r pecyn hysbysebu).