Efallai y bydd yn well gan rai pobl wirfoddoli ar adeg ac mewn lleoliad sy'n eu siwtio nhw, yn hytrach na bod yn rhan o grŵp sydd wedi'i drefnu. Rydym ni'n datblygu'r cyfleoedd hyn ar hyn o bryd.
- Warden llwybrau troed – cerdded y llwybrau mewndirol yn eich milltir sgwâr ac adrodd yn ôl ar eu cyflwr. Darperir hyfforddiant.
- Gwarcheidwad safle – cynrychioli’r Parc Cenedlaethol mewn safleoedd fel Sant Gofan a Maes Awyr Tyddewi. Bod yn gyfrifol am gadw golwg rheolaidd ar safle yn eich ymyl ac adrodd yn ôl ar ei gyflwr a’r defnydd ohono.W
- Warden coed – cadw golwg ar gyflwr coed arbennig yn eich ardal ac adrodd yn ôl. Sawl cyfle hyfforddi.
- Gwarcheidwad treftadaeth – monitro ein hasedau treftadaeth ac adrodd ar eu cyflwr. Darperir hyfforddiant.