O 27 Mawrth bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi ond ni chaiff pobl deithio eithio y tu allan i Gymru na mynd i mewn i Gymru.
Mae’r newidiadau i’r cyfyngiadau hefyd yn golygu caiff llety hunangynhwysol ailagor a chaiff chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol.
Os ydych yn gallu mwynhau awyr agored y Parc o dan y lefel bresennol o gyfyngiadau, gofynnwn ichi droedio’n ysgafn. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad a gadael olion traed yn unig.
Bydd Pencadlys yr Awdurdod ar gau nes bydd rhybudd pellach. Ewch i’r adran Cysylltu â Ni i gael manylion ar sut i gysylltu â staff yr Awdurdod.
I gael rhagor o wybodaeth, am ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Dolenni cyflym i wybodaeth a chyngor
►Beth sydd angen i mi ei wneud?
►Meysydd Parcio
►Rhwydwaith Llwybrau Troed
►Troedio’n Ysgafn
►Natur Dros y We
►Rheoli Datblygu (Cynllunio)
►Pencadlys ac atyniadau i ymwelwyr Awdurdod y Parc
►Cysylltu â ni
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r canllawiau diweddaraf – edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru i gael y cyngor diweddaraf.
Aros yng Nghymru – peidiwch â theithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol
Cyfyngu ar nifer y bobl rydych yn cwrdd â nhw’n gymdeithasol – caiff chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol.
Cynlluniwch ymlaen llaw os ydych chi’n mynd i ymweld â Sir Benfro
- Archebwch lety ymlaen llaw
- Os ydych chi’n dod â charafán neu’n bwriadu gwersylla, defnyddiwch wersyllfa ddynodedig. Chwiliwch wefan Croeso Sir Benfro am restr o ddarparwyr llety.
- Defnyddiwch ein papur newydd i ymwelwyr Coast to Coast i gynllunio’ch ymweliad
- P’un a ydych chi’n dod am wythnos neu os ydych chi’n cynllunio diwrnod allan yn y Parc, mae’n llawn syniadau a ffyrdd i’ch helpu chi i droedio’n ysgafn a Gadael dim ar ôl.
Os ydych yn gallu ymweld â’r Parc Cenedlaethol o dan y lefel bresennol o gyfyngiadau, byddwch yn garedig a chofio’r tair rheol:
-
PARCHWCH Y TIR
-
PARCHWCH Y GYMUNED
-
PARCHWCH EICH GILYDD
Dilynwch Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar Twitter a Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r Parc.
Meysydd Parcio
Mae’r meysydd parcio a reolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar agor. Ewch i’n tudalen barcio i gael mwy o wybodaeth.
Rhwydwaith Llwybrau Troed
Mae’r rhwydwaith llwybrau troed ar agor yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Arweiniad Cerdded Covid-19 (y Coronafeirws).
Troediwch yn ysgafn yn y Parc
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau’r awyr agored yn gyfrifol, yn dilyn unrhyw gyngor ar y safle ac yn cadw at y Cod Cefn Gwlad.
Cysylltu â Natur Dros y We
Os na allwch adael eich cartref neu deithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gallwch gysylltu â natur y Parc trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a’n fersiwn ar-lein o Coast to Coast.
Hoffwch y Parc Cenedlaethol ar Facebook, Twitter a Instagram
Gwasanaeth Rheoli Datblygu (Cynllunio)
Mae gwasanaeth Rheoli Datblygu yr Awdurdod wedi parhau i weithredu’n ymarferol yn ystod cyfyngiadau’r Coronafeirws. Mae ein gwefan yn gweithredu fel arfer gyda mynediad at agendâu, dogfennau a chofnodion y Pwyllgor Rheoli Datblygu, ynghyd â mynediad arferol i’r cyhoedd at fanylion ceisiadau cynllunio.
Bydd pencadlys Parc Llanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ailagor i aelodau’r cyhoedd ar sail apwyntiadau yn unig ddydd Mercher 2 Medi.
O 1 Medi 2020 a hyd nes y rhoddir gwybodaeth bellach, ni fyddwn yn gallu cynnig cyngor cynllunio dros y ffôn na drwy’r e-bost, ac ni chynhelir cymorthfeydd cynllunio am y tro. Gwneir hyn i alluogi swyddogion i glirio’r ceisiadau cynllunio a cheisiadau cyn ymgeisio sydd eisoes wedi dod i law o ganlyniad i faterion Covid-19 a TG.
Bydd cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygiad yn cael eu cynnal dros y we a gellir eu gweld drwy ffrwd fideo byw. Mae manylion am sut i’w gwylio ar y wefan.
Ni fydd y Pwyllgor Rheoli Datblygiad yn ymweld â safleoedd tra bod cyfyngiadau’r Coronafeirws mewn grym. Bydd penderfyniadau’r pwyllgor yn seiliedig ar wybodaeth ceisiadau a fydd yn cael eu cyflwyno iddyn nhw mewn adroddiadau a chyflwyniadau eraill.
Nid oes gan staff fynediad i’r swyddfeydd ar hyn o bryd. O ganlyniad, bydd hysbysiadau safle yn cael eu defnyddio fel y prif fath o hysbysebu ar gyfer pob cais yn ystod y cyfnod hwn, yn hytrach na llythyrau uniongyrchol i eiddo cyfagos. Gallwch hefyd weld y rhestrau wythnosol o geisiadau sydd wedi’u cofrestru a’u penderfynu ar-lein.
Pencadlys ac atyniadau i ymwelwyr Awdurdod y Parc
Bydd pencadlys yr Awdurdod ar gau nes bydd rhybudd pellach. I gael mwy o fanylion am lefelau rhybuddio ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae atyniadau i ymwelwyr yr Awrdudod yng Nghastell Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys a Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc dal ar gau.
Cysylltu â Staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Os hoffech gysylltu â’r Awdurdod, dylech ffonio 01646 624800 neu anfon e-bost at gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk neu defnyddiwch y ffurflen ar ein tudalen cysylltu â ni.
Ymholiadau ar gyfer Castell Caeriw: enquiries@carewcastle.com.
Ymholiadau ar gyfer Castell Henllys: enquiries@castellhenllys.com.
Ymholiadau ar gyfer Oriel y Parc: info@orielyparc.co.uk.