GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Gweithgareddau Cynhanesyddol
(Ar gael ddydd Llun- Iau yn ystod gwyliau ysgol)
Ceisiwch wahanol fathau o weithgareddau cynhanesyddol gan gynnwys gwneud bara. Ymholwch yn y dderbynfa wrth i chi gyrraedd i ddarganfod pa sesiynau sydd yn rhedeg ar ddiwrnod eich ymweliad. Tal gweithgareddau yn ychwanegol i dal mynediad.
Llwybr Tric neu Ddanteithion Henllys Hunllefus
Dydd Sul 22 Hydref – Dydd Sul 5 Tachwedd
Mae’r gorchudd rhwng y byd hwn a’r nesaf ar ei deneuaf ac mae ysbrydion wedi dechrau ymddangos! Dilynwch y llwybr pwmpen arswydus wrth i chi chwilio am ysbrydion o orffennol Sir Benfro o amgylch Castell Henllys. Gwobr i unrhyw un sy’n llwyddo i ddarganfod a thynnu lluniau o’r holl ysbrydion ar ffon clyfar, neu eu rhestru ar ddarn o bapur, ynghyd â thriciau a danteithion i chi ddod o hyd iddynt yn ein tai crwn!
£4 y person a’r tâl mynediad arferol.
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
Storïau Ysbryd Sir Benfro
Dydd Sadwrn 21 Hydref 2.30pm
Taith arswyddus o amgylch ein coedwig dywyll o amgylch y Pentref, a fydd yn eich cyflwyno i storïau rhyfedd ac iasoer am greaduriaid a chymeriadau chwedlau Cymreig.
£5 y person a’r tâl mynediad arferol. Rhaid archebu lle.
Dathliad Samhain
Dydd Sul 28 Hydref 10am-5pm
Mae’r cynhaeaf yn dod i ben; mae’r gaeaf yn agosáu ac mae’n ddathliad Samhain! Dewch i ddysgu sut y byddai pobl yr Oes Haearn yn dathlu’r ŵyl Geltaidd hynafol hon. Ewch i ysbryd yr ŵyl drwy gael glaslys wedi’i beintio ar eich braich, gwylio’r grefft o gynnau tân a gwneud anghenfil clai i ddychryn yr ysbrydion drwg yn barod am nosweithiau hir y gaeaf. Casglwch o amgylch tân y tŷ crwn, lle gallwch wrando ar hanesion yr Arallfyd a chaneuon traddodiadol.
£10 – Oedolyn £9 – Pris Gostyngol £8 – Plentyn £30 – Teulu (2+2)