Profwch yr Oes Haearn (yn ddyddiol o ddydd Sadwrn 1 Ebrill)
Mae antur hynafol yn aros amdanoch! Yn y pentref Oes Haearn bydd aelod cyfeillgar o’n llwyth yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynydde ynol. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad.
Bore tawel Profwch yr Oes Haearn (dydd Sul 10am-12pm)
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.
Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)
Dydd Sadwrn – 3 Mehefin, 1 Gorffennaf, 5 Awst a 19 Awst
Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg.
GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Gweithgareddau Cynhanesyddol (Ar gael ddydd Llun- Iau yn ystod gwyliau ysgol)
Ceisiwch wahanol fathau o weithgareddau cynhanesyddol gan gynnwys gwneud bara. Ymholwch yn y dderbynfa wrth i chi gyrraedd i ddarganfod pa sesiynau sydd yn rhedeg ar ddiwrnod eich ymweliad. Tal gweithgareddau yn ychwanegol i dal mynediad.
Gweithdy Sgiliau Hynafol
Dydd Mercher 9, 16, 23 a 30 Awst
10.30am – 12.30pm a 2pm – 4pm
Goroeswch y gwyllt mewn ffordd hynafol! Yn y gweithdy yma fyddwch yn dysgu sgiliau ein cyndeidiau (yn cynnwys y sgil o ddechrau tân).
Addas i blant dros 7 wedi’i goruchwylio gydag oedolyn.
Rhifau yn gyfyngedig i 6 person y sesiwn. Mae’n hanfodol i archebu lle.
£15 (yn cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn).
Gŵyl Archeoleg Prydain – Ysgol Rhyfelwyr
25, 26 a 27 Gorffenaf
I’r Gad !! Dewch I Gastell Henllys I ddysgu am sut oedd pobl yn y gorffennol yn ymladd. Bydd technegau ymladd o sawl gwahanol oes yn cael ei ddysgu –
Oes Haearn – Dydd Mawrth 25 – Archebwch Nawr
Rhufeinig – Dydd Mercher 26 – Archebwch Nawr
Llychlynnaidd – Dydd Iau 27 – Archebwch Nawr
Dysgwch sut i ddefnyddio arfau, amddiffyn eich hun gyda tharian. Allwch hefyd creu eich tarian bersonol. Rhaid archebu eich lle. 8+, £3 i bob unigolyn. Bydd pecynnau creu tarian i gael ar gyfer plant sydd rhy ifanc i gymerid rhan
Gŵyl Archeoleg Prydain – Profwch Archeoleg – Gweithgaredd
Dydd Gwener 28 Gorffennaf
Cydiwch mewn trywel ac darganfodwch beth sydd ishe arnoch chi i ddod yn archeolegydd. Dysgwch sut mae archeolegydd yn ffeindio a chloddio’r safleoedd. Gallwch chi ddefnyddio “datguddiwr metal”, ac wedyn cloddio arteffact I fynd getre gyda chi. Byddwch hefyd yn cael siawns i ddysgu sut i dynnu lluniau fel archeolegydd. Bydd eitemau replica i gael o’r safle a defnydd archeolegydd o’n casgliad. Cwrddwch â’r archeolegwyr. Rhaid archebu oflaen llaw. Oed 6+. £5 a mynediad arferol i bob plentyn.
Gweithgareddau Calan Awst
Dydd Mawrth 1 Awst, 10am – 4pm
Mae gŵyl y cynhaeaf wedi ein cyrraedd, a ma’r pentrefwyr yn dathlu. Dewch i greu cannwyll cwyr gwenyn, gwneud bara cynhanesyddol, ac ymarfer y grefft o ryfela Oes Haearn. Cost ychwanegol wrth y drws.
Ffwrio i’r teulu
Dydd Sadwrn 26 Awst
Ymunwch a ffwriwr proffesiynol, Jade Mellor, am daith o gwmpas Castell Henllys, wrth ddysgu am fwydydd gwyllt. Fyddwn yn edrych am y planhigion mwyaf blasus o’r cloddiau gwyllt, yn ffwrio ac yn blasu wrth grwydro’r safle.
O dan yr tipi, fyddwn yn trafod ein planhigion, wrth yfed te wedi’i ffwrio ac yna gwneud jar bach o wylltyr i cymryd adre.
Llefydd yn brin.
£20 y person, gan gynnwys mynediad i’r Fryngaer.
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
Gŵyl Archeoleg Prydain – Ffasiwn y Gorffennol
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf 10am-4pm
Ewch am dro o amgylch y fryngaer i ddarganfod sut oedd pobl yn creu eu dillad gyda defnydd naturiol, a sut oedd ffasiwn yn edrych cannoedd ar filoedd o flynydde ynol. Cwrddwch â nyddwyr, gwehyddion a lliwyddion sydd yn cadw defnyddio’r technegau yma heddiw. Rowch dro i nyddio a gwehyddu ac newch rhywbeth bach i chi fynd getre gyda chi. (yn rhan o’r gost mynediad arferol)
Gŵyl Archeoleg Prydain – Darganfodwch Archeoleg yng Nghastell Henllys
Dydd Gwener 28 Gorffennaf 10am-4pm
Cwrddwch â’r archeolegwyr. Dysgwch am sut ma archeolegydd yn cael eu gwarchod ofewn y parc genedlaethol a dysgwch am beth ddylech neud os dewch chi ar draws arteffactau. Cewch siawns i afael mewn eitemau replica ac eitemau archeolegol o’n casgliad ni. Mae hwn wedi’i gynnwys yn ein tocyn arferol.
Calan Awst Lughnasadh Evening Celebration
Tuesday 1 August 6pm
Mae’n amser dathlu! Dewch i ymfalchïo yn y Cynhaeaf! Bydd y dyn gwial yn cael ei gynnu gan perfformwr tan, ond nid cyn i Gwilym Bowen Rhys ein diddanu wrth i’r haul fachlud dros y Fryngaer. Fe fydd bwyd a diod ar gael i brynu ar y safle.
£15 y person
Collective Flight Syrcas
Thursday 10 August
Dewch i ymgeisio yn sgiliau llawr ag awyrol y syrcas! Cyflwyniad mewn i’r sgil o gydbwyso gyda phartner a gyda’ch llaw. Sgiliau cydbwyso, llawsefyll ag awyrol yn addas i blant ac oedolion o oedran 8 ac i fyny
12pm Sgiliau Awyrol – £30 y person gan gynnwys mynediad mewn i’r Fryngaer
2pm Sgiliau llawr y syrcas – £20 y person, gan gynnwys mynediad mewn i’r Fryngaer
Sioe Murmurations of Witches Garden
Dydd Iau 10 Awst 6.30pm
Mewn seremoni ddefodol, mae cylchoedd golau a thywyllwch yn cael eu clymu yn y chwedlau hyn, am ferched doeth sy’n cael eu herlid a’u trysori a’u harchwilio trwy’r syrcas. Corddi ysbrydion a straeon trwy berlysiau, Caneuon, bwyd a botaneg, gan wahodd y cynulleidfaoedd i agor eu synhwyrau. £10 y pen.
Goresgyniad y Rhufeiniaid!
Dydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Awst 11am-4.30pm
(arddangosiadau yn yr arena am 12.30pm a 2.30pm)
Yn fuan ar ôl goresgyn Ynys Môn, mae milwyr byddin Rufeinig Legio VIII Awsta MGV yn cyrraedd Castell Henllys i gwblhau eu goresgyniad o Gymru. Gan fod y brwydro bellach drosodd a fyddant yn dinistrio’r gaer? Dewch i ddysgu am eu ffordd o fyw drwy grefftau a gweithgareddau, popeth wedi’i gynnwys gyda’r gost o fynediad.
Oedolyn – £12, Consesiwn – £11, Plentyn – £10, Teulu – £35
Gwerin wrth y Gwreichion – Three Legg’d Mare
Dydd Sadwrn 19 Awst 7pm
Mae milwyr byddin Rufeinig Legio VIII Awsta MGV yn dathlu ei gwyl Vinalia Rustica yng Ngastell Henllys. Dewch i wrando ar y grwp gwerin “Three Legg’d Mare”, bydd yn chware eu casgliad o gerddoriaeth traddodiadol.
£12 y pen.