Melin Heli Caeriw yw’r unig felin lanw o’i math sydd wedi’i hadfer yng Nghymru, ac un o ddim ond pump yng ngwledydd Prydain.
Er nad yw’r Felin heno’n malu, mae’r peirianwaith yn gyfan.
Mae arddangosfa, sylwebaeth sain a byrddau rhyngweithiol i blant o bob oed yn dangos sut y defnyddiwyd dŵr fel ffynhonnell ynni gynaliadwy ar hyd yr oesoedd.
Hanes
Mae’n debyg fod yr adeilad presennol yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, ac yn wir, fe welir y dyddiad 1801 ar un o ddwy olwyn y Felin.
Weithiau gelwir y Felin yn ‘Felin Ffrengig’, sy’n gyfeiriad efallai at y defnydd o feini melin Ffrengig.
Mae union ddechreuad Melin Caeriw’n ansicr. Mae’n bosib fod Melin, a weithid â chafn ddŵr a redai o Afon Caeriw, yma cyn adeiladu’r sarn, ac mae tystiolaeth ddogfennol yn nodi bod Melin o ryw fath yn bodoli yma mor gynnar â 1542.
Mae cofnodion yn dangos bod John Bartlett ym 1558 wedi cymryd prydles ar y Felin am swm o ddeg sofren y flwyddyn.
Fe ddaw’r cyfeiriad cyntaf at sarn mewn comisiwn ym 1630 sy’n nodi bod Syr John Carew wedi adfer y fflodiardau a waliau’r sarn ryw 15 mlynedd ynghynt.
Dychwelodd y Felin i fri gyda’r adfywiad amaethyddol tua diwedd y 18fed ganrif, ac wedi’r adeg honno bu defnydd cyson arni.
Daeth y gweithgaredd i ben yn derfynol ym 1937 ac o hynny ymlaen bu’r adeilad yn segur.
Ond nid dyna ddiwedd arni, oherwydd gwnaed gwaith adnewyddu a’i gwblhau ym 1972 gan Stad Caeriw gyda chymorth arian oddi wrth Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Dosbarth Gwledig Penfro.
Hela crancod ar y sarn
Mae’r sarn y tu allan i’r Felin yn un o’r llecynnau gorau yn Sir Benfro i ddal crancod!
Oddeutu’r penllanw yw’r amser gorau i granca, pan fydd Llyn y Felin yn llawn.
Gallwch gael popeth sydd ei angen i roi cychwyn arni o Siop y Felin, gan gynnwys hufen iâ!
