Y Cod Cefn Gwlad

PARCHU, DIOGELU, MWYNHAU

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad, a’ch galluogi chi i wneud y mwyaf o’ch ymweliad.

Mae Cod Cefn Gwlad newydd wedi’i gyhoeddi, 70 mlynedd ers cyhoeddi’r llyfryn cyntaf ym 1951. Mae’r Cod yn caniatáu i bobl o bob oed a chefndir fwynhau’r manteision iechyd a lles y mae natur yn eu cynnig, gan barchu’r amgylchedd a phobl sy’n byw ac yn gweithio ynddo.

Mae’n cynnig cyngor defnyddiol ynghylch y canlynol:

  • Paratoi ar gyfer eich ymweliad
  • Cadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel
  • Gwneud yn siŵr bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.

I gael manylion llawn, gan gynnwys amrywiaeth o godau ar gyfer gweithgareddau penodol fel genweirio, canŵio a nofio gwyllt, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer y Coronafeirws

Parchwch bawb

  • byddwch yn ystyriol o’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau
  • gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
  • peidiwch â rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio
  • byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y gofod
  • dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau wedi’u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael

Diogelwch yr amgylchedd

  • ewch â’ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad
  • cymerwch ofal gyda barbeciws a pheidiwch â chynnau tanau
  • cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser
  • baw cŵn – bagiwch a biniwch – bydd unrhyw fin gwastraff cyhoeddus yn gwneud y tro
  • gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch

 

Mwynhewch yr awyr agored

  • cadarnhewch eich llwybr a’r amodau lleol
  • cynlluniwch eich antur – dylech wybod beth i’w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud
  • mwynhewch eich ymweliad, gan gael hwyl a chreu atgofion