Cyflwyniad

Cynllun Datblygu Lleol 2

Mae Cynllun Datblygu Lleol newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Cynllun Datblygu Lleol 2) (2015-2031) wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol o dan adran 64 (1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar 7 Rhagfyr 2018.

Cliciwch y ddolen i weld copi o’r Datganiad Cyflwyno.

Bydd yr Archwiliad yn cael ei gynnal gan Arolygydd Annibynnol a benodir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Dogfennau Cyflwyno ar y CDLl

(SD01) Y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adneuo 2015-2031

(SD02) Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol

(SD03) Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

(SD04) Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

SD05) Newidiadau â Ffocws (Awdurdod Parc Cenedlaethol cymeradwy 28 Tachwedd 2018)

 

Dogfennau Ategol  

(SD06) Y Cytundeb Cyflawni

(SD07) Yr Adroddiad Adolygu

(SD08) Y Gofrestr o’r Safleoedd Ymgeisiol

(SD09) Safleoedd Newydd neu’r Safleoedd Diwygiedig (Strategaeth Ddewisol)

SD10) Safleoedd Newydd neu’r Safleoedd Diwygiedig (Cynllun Adneuo)

(SD11) Yr Adroddiad Ymgynghori

(SD12) Papurau Cefndir

Y Camau Nesaf

Mae Mrs Caroline Llewellyn wedi’i phenodi yn Swyddog Rhaglen i gynorthwyo i fwrw ymlaen â’r Archwiliad. Bydd y Swyddog Rhaglen yn bwynt cyswllt rhwng yr Awdurdod, y Rhai a Gyflwynodd Sylwadau a’r Arolygydd, a bydd yn sicrhau bod yr Archwiliad yn mynd rhagddo yn hwylus. Mae Mrs Caroline Llewellyn yn gweithio yn Swyddfa’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn Noc Penfro, a gellir cysylltu â hi drwy’r e-bost: programmeofficer@pembrokeshirecoast.org.uk neu dros y ffôn ar 01646 624800 / 07773 932339. Disgwylir y bydd yr Archwiliad Annibynnol yn cael ei gynnal rywbryd yn y Flwyddyn Newydd 2019.

Bydd y Swyddog Rhaglen yn ysgrifennu at y rhai sydd ar ein rhestr bostio ar wahân i roi gwybod i chi am y dyddiadau a’r amserlen i’r dyfodol ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2