Teithiau Cerdded Trefdraeth

O lannau aber Nanhyfer, i fyny llethrau Mynydd Carningli, i lawr cymoedd coediog ac allan i’r twyni tywod yn Nhraeth Mawr, mae’s teithiau cerdded hyn yn cynnig amrywiaeth o olygfeydd hardd a chynefinoedd naturiol.

Mae gan Drefdraeth ei hun Gastell Normanaidd, ambell i dŷ diddorol o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dau draeth – Traeth Trefdraeth a Pharrog Trefdraeth – wedi eu gwahanu gan yr afon Nyfer.

Mae Traeth Trefdraeth yn draeth sy’n enwog ym myd syrffio gwynt, ond mae’r Parrog, er ei fod yn fwy cysgodol na Thraeth Trefdraeth, yn draeth mwy mwdlyd gyda rhai ceryntau peryglus.

O’r unfed ganrif ar bymtheg i’r ugeinfed ganrif gynnar roedd Trefdraeth yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu ac adeiladu cychod  ac, ar un adeg, roedd gan y Parrog sawl warws (un wedi goroesi fel y Clwb Cychod).

Mae amrywiaeth o gyfleoedd cerdded ar gael yn Nhrefdraeth a’r cyffiniau ac mae’r rhain wedi’u rhestru o dan dri phennawd, Teithiau Hanner Diwrnod + i’r rhai sydd eisiau dilyn llwybr mwy heriol a hir, teithiau byr i’r rhai sydd eisiau mynd am dro a theithiau cerdded mynediad hawdd ar gyfer y rhai â phroblemau symudedd, gan gynnwys llwybrau sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, yn ogystal â rhieni â chadeiriau gwthio a bygis.